Back to News
Cyhoeddiad Brys
Posted or Updated on 12 Mar 2024
Yn sgil yr afiechyd pandemig Coronavirus, er mwyn diogelu cleifion byddwn yn newid y ffordd yr ydym yn cynnig gofal i gleifion o Ddydd Llun 16 o Fawrth.
Os oes gennych chi wres, tagiad neu symptomau tebyg i'r ffliw yna peidiwch a mynychu'r feddygfa. Hyd yn oed os nad ydych wedi bod dramor neu er os nad ydych chi wedi body mewn cysylltiad gyda rhywun sy'n dioddef o coronavirus.
Rydym nawr ond yn ymdrin â phroblemau brys, a’r nod yw lleihau’r cysylltiad wyneb i wyneb i’r lleiafswm. Os yr ydych yn teimlo eich bod angen cyngor gan feddyg, yna ffoniwch y feddygfa – PEIDIWCH â throi fyny gan y bydd staff yn gofyn i chi adael a ffonio’n unig.
Bydd eich gofal yn cael ei adolygu gan glinigwr a’i drin yn ffordd briodol. Mae disgwyl i’r cynlluniau yma fod mewn grym am rai wythnosau, nes i ni gael cadarnhad bod modd i ni ddychwelyd i’r ffyrdd arferol o weithio.
Byddwn yn ddiolchgar i chi basio’r manylion yma ymlaen at unrhyw un yr ydych yn ei adnabod.
Os oes apwyntiad gennych chi eisoes yna cysylltwch â’r feddygfa drwy ffonio gan efallai y bydd rhaid ei ganslo.
Os yr ydych yn dymuno cael pregrispsiwn amlroddadwy (repeat prescription) yna postiwch yn y bocs y tu allan, mae angen i chi enwebu fferyllfa i ni allu anfon y prescriptiwn yn y post, neu gofynnwn i chi gynnwys amlen gyda stamp sy’n cynnwys eich cyfeiriad.
Peidiwch â chiwio wrth y drws am 8 y bore. Os yr ydych angen apwyntiad ar fry syn ffoniwch 01492 864540.
Rydym yn ymddiheuro am unrhyw drafferthion ac rydym yn gwerthfawrogi eich cydweithrediad.